- Ty ynghanol teras +
- Golygfeydd tuag at Yr Eifl +
- Tair llofft ac atig aml-bwrpas +
- Lolfa, Ystafell Fyw ac Ystafell Fwyta +
- Gardd gefn helaeth +
- Pentref gwledig gyda nifer o gyfleusterau +
Cynigion Dros £189,000 - Mae’n bleser gan Werthwyr Eiddo a Syrfewyr siartredig Tudor gynnig ar werth gartref delfrydol i deulu ym mhentref Trefor, Arfon. Mae'r eiddo yma yn mwynhau golygfeydd ysblennydd o’r Eifl a’r Gurn Ddu. Mae’r eiddo o fewn 25 metr i’r arosfannau bws, gyda gwasanaeth bob awr i gyfeiriad Pwllheli a Chaernarfon; capel dros y ffordd ac ysgol gynradd Yr Eifl o fewn 100 metr. Ceir hefyd siop fwyd, Swyddfa Bost a chae chwarae.
Gwres canolog (nwy) a ffenestri dwbwl drwy’r ty.
Yn gryno, mae'n cynnwys y canlynol: - Cyntedd. Lolfa. Ystafell fyw. Ystafell fwyta. Cegin. Tair ystafell wely. Ystafell ymolchi. Mantais o ystafell atig/aml-bwrpas. Gerddi yn y blaen a’r cefn. Mae'r ty yn barod i symud i fewn iddo ac nid oes tsaen brynwyr yn bod.
Llawr Gwaelod -
Cyntedd - Rheiddiadur. Grisiau i'r llawr cyntaf. Drws i:
Lolfa - 3.38m x 3.89m (11'1 x 12'9) - Rheiddiadur.
Ystafell Fyw - 3.91m x 3.63m (12'10 x 11'11) - Rheiddiadur. Lle tân gyda llosgwr aml-danwydd newydd sbon.
Ystafell Fwyta - 2.51m x 2.79m (8'3 x 9'2) - Rheiddiadur. Drws i gwpwrdd dan grisiau.
Cegin - 2.59m x 2.84m (8'6 x 9'4) - Cegin fodern compact. Lle ar gyfer popty a peiriant golchi dillad. Drws yn arwain at y cowt/iard allanol, sied fechan storio.
Llawr Cyntaf -
Pengrisiau -
Ystafell Ymolchi - 2.57m x 3.12m (8'5 x 10'3) - Baddon a chawod drydan uwchben. Ffan trwy'r wal. Basn ymolchi. Toiled. Rheiddiadur. Cwpwrdd yn cynnwys boilar nwy (gwresogi a dwr poeth) a lle storio.
Llofft 1 (Ffrynt) - 2.87m x 3.94m (9'5 x 12'11) - Rheiddiadur.
Llofft 3 (Ffrynt) - 1.78m x 2.72m (5'10 x 8'11) - Rheiddiadur.
Llofft 2 (Cefn) - 2.92m x 2.87m (9'7 x 9'5) - Rheiddiadur.
Ystafell Atig - Drws a grisiau serth i'r atig/stafell aml bwrpas a stafell storio.
Tu Allan - Gardd fechan yn y ffrynt. Gardd helaeth yn y cefn gyda golygfeydd agored. Sied ardd gyda chyflenwad trydan.
Gwasanaethau - Rydym yn deall bod y prif gyflenwad dwr. draenio a thrydan wedi'u cysylltu â'r eiddo. Poteli Nwy. Dylai darpar brynwyr wneud eu hymholiadau eu hunain ynghylch addasrwydd a digonolrwydd y
gwasanaethau hyn.
Perchnogaeth - Rydym yn deall bod yr eiddo yn rhydd-ddaliad gyda meddiant gwag ar gael ar ôl ei gwblhau.